Datganiad i’r Wasg

Mae ail-ddychmygu stori Rapynsel yn dychwelyd am ail daith yn dilyn adolygiadau brwd

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Chapter.

Mae We Made This yn falch o gyhoeddi y byddant yn mynd â’r sioe Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair, sef ailddychmygiad o Rapynsel, ar daith y Gwanwyn hwn. Yn gynhyrchiad theatr uchelgeisiol a hollgynhwysol i gynulleidfaoedd ifanc, gwerthwyd pob tocyn i’r perfformiadau o The Girl with Incredibly Long Hair yn y Coed Duon a Chaerdydd yn 2018. Mae’n dychwelyd yn awr gyda thaith estynedig a fersiwn newydd Gymraeg i’w hychwanegu, Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir.

Gwahoddir teuluoedd i ymuno â Rapynsel, ei Mam, a’i ffrind newydd, Daf, wrth iddynt fynd ar antur i ganol y goedwig. Byddwch yn barod i ymgolli yn ei golygfeydd, ei seiniau a’i harogleuon, wrth i’r stori ddatblygu o’ch amgylch. Sioe deulu newydd yw The Girl with Incredibly Long Hair gan We Made This sy’n ail-ddychmygu stori Rapynsel ar gyfer ein hoes ni, ac sy’n addo bod yn brofiad bythgofiadwy i’r teulu cyfan.

Bydd Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair yn agor yn Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon ar 10 a 11 Ebrill, cyn teithio i Ganolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, Theatr Brycheiniog, Canolfan Celfyddydau Memo y Barri, Canolfan Celfyddydau Pontardawe, Canolfan Celfyddydau Glan yr Afon, gan orffen yn Theatr Clwyd ar 23-25 Mai.  Bydd pob lleoliad ar y daith yn cynnig perfformiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r cast newydd yn cynnwys Tonya Smith (Mam), Owen Alun (Daf) a Lara Catrin (Rapynsel). Cyfieithwyd fersiwn Gymraeg y sioe gan Catrin Wyn Lewis.

Meddai Matt Ball, y cyfarwyddwr;
 “Tyfodd y sioe o sgyrsiau ynghylch y straeon amser gwely rydym yn eu darllen i’n plant. Roedd hi’n rhwystredig i ni yn yr 21ain ganrif fod cynifer o lyfrau plant yn parhau i gynnig darlun hen ffasiwn iawn o’r byd. Sawl stori sy’n cynnwys tywysoges yn aros i gael ei hachub gan dywysog neu ferch sy’n hoffi ffrogiau disglair a bachgen sy’n hoffi bod yn fwdlyd?

O’r trafodaethau hyn y deilliodd The Girl with the Incredibly Long Hair; ailddychmygiad o Rapynsel, lle nad oes rhaid iddi gael ei hachub gan y tywysog. Dyma’r math o sioe rydym am i’n plant ei gweld.

Eleni rydym yn ychwanegu fersiwn Gymraeg o’r sioe, fel y gellir mwynhau ein rebel Rapynsel a’n gwas pobydd Daf yn nwy iaith ein cenedl. Ni allwn aros i rannu’r stori hon â chynulleidfaoedd ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru’r Gwanwyn hwn.”

Cynigir perfformiadau ymlaciedig yng Nghaerdydd sy’n agored i unrhyw un, ond fe’u bwriedir ar gyfer pobl ag anghenion arbennig sy’n ei chael hi’n anodd mynd i’r theatr, yn enwedig pobl sydd ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig, anabledd dysgu neu anhwylder synhwyraidd a chyfathrebu. Bydd dau berfformiad Iaith Arwyddion Prydain wedi’u dehongli yn ystod y daith – un yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter ac un yng Nghanolfan Celfyddydau Memo y Barri.

Cwmni Theatr yw We Made This ac mae’r enw’n esbonio natur gydweithiol y gwaith. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, mae wedi’i leoli ym Mhontypridd, ac ar gyfer pob prosiect maent yn cydweithio gydag artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.

Manylion y perfformiadau

We Made This

Y Pasg hwn, ymunwch â Rapynsel, ei mam, a’i chyfaill newydd, Daf, yn y goedwig wrth iddynt ddechrau ar antur y bydd angen eich help chi ar ei chyfer. Sioe newydd i’r teulu yw Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir gan We Made This sy’n ailddychmygu stori Rapynsel ar gyfer ein hoes ni.         

*****  “…awr o hud a lledrith […] cynhyrchiad ysbrydoledig.[…] Roedd y gynulleidfa ifanc wedi’u swyno o’r dechrau i’r diwedd…. The Western Mail   

Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Chapter.

Cefnogwyd yn wreiddiol mewn partneriaeth gyda Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru gyda chefnogaeth gan Creu Cymru.

We Made This

The Girl with Incredibly Long Hair

This Easter join Rapunzel, her Mam, and her new friend Daf in the forest as they set off on an adventure, for which they’ll need your help. Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair is a family show from We Made This which reimagines the story of Rapunzel for our times.       

*****  “…an hour of magic […] an inspired production.[…] The young audience were spellbound from start to finish….” The Western Mail   

Supported by Arts Council of Wales, Blackwood Miners Institute & Chapter.

Originally made in partnership with Blackwood Miners’ Institute and Wales Millennium Centre, and supported by Creu Cymru.

 Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon / Blackwood Miners Institute/

10 Ebrill / April   10am (Saesneg)

                         1.30pm (Saesneg)

                         4.30pm(Saesneg)

11 Ebrill / April   10am (Cymraeg)

                         1.30pm (Cymraeg)

blackwoodminersinstitute.com / 01495 227206 

Chapter, Caerdydd/Cardiff

13 Ebrill / April  11am (Saesneg) & 2pm (Cymraeg)

*14 Ebrill / April  11am ( Cymraeg) & 2pm (Saesneg)

*Perfformiadau Ymlaciedig

16 Ebrill / April  11am (Saesneg) & 2pm** (Saesneg)

**Perfformiad wedi’i ddehongli

17 Ebrill / April  11am (Cymraeg) & 2pm (Cymraeg)

18 Ebrill / April  11am (Saesneg) & 2pm (Saesneg)

chapter.org / 029 2030 4400

Theatr Brycheiniog

26 Ebrill / April  6pm (Saesneg)

27 Ebrill / April  11am (Cymraeg) & 2pm (Saesneg)

brycheiniog.co uk / 01874 611622

Canolfan y Celfyddydau Memo Arts Centre, Y Barri / Barry

7 Mai/May  5pm (Saesneg)

8 Mai/May  10am** (Saesneg) & 1.30pm (Cymraeg)
**Perfformiad wedi’i ddehongli

memoartscentre.co.uk / 01446 738622

Canolfan Celfyddydau Pontardawe

15 Mai/May  5.30pm (Saesneg)

16 Mai/May 10am (Saesneg) & 1pm (Cymraeg)

npttheatres.co.uk / 01792 863722

Glan yr Afon, Casnewydd/Newport

17 Mai/May  5.30pm (Saesneg)

18 Mai/May  11.30am (Cymraeg)

                     2.30pm (Saesneg)

newportlive.co.uk/riverfront / 01633 656679

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug/ Mold

23 Mai/May  4.30pm (Saesneg)

24 Mai/May  10.30am (Cymraeg) & 4.30pm(Saesneg)

25 Mai/May  10.30am (Saesneg) & 1.30pm (Cymraeg)

www.theatrclwyd.com / 01352 701521

Cast
Tonya Smith (Mam)
Owen Alun (Daf)
Lara Catrin (Rapynsel)

Awdur a Chyfarwyddwr: Matt Ball
Cyfieithydd: Catrin Wyn Lewis
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Ceri Elen
Dyluniwr Sain: Sam Jones
Dyluniwr: Alison Neighbour
Dyluniwr Goleuadau: Elanor Higgins

Rheolwr y Cynhyrchiad: Matt Davies
Dirprwy Reolwr Llwyfan: Garrin Clarke
Rheolwr Llwyfan Technegol: Paul Brown
Cynhyrchydd: Nia Skyrme
Swyddog y Wasg a Marchnata: Lowri Johnston
Swyddog Ymgysylltu Cymunedol: Penni Carr, Llinos Jones, Daisy Williams

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu tocynnau i’r wasg a chyfweliadau, cysylltwch â Lowri Johnston: lowri.johnston@gmail.com / 07817 558833

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *