TECHNICAL STAGE MANAGER / RHEOLWR LLWYFAN TECHNEGOL

 

RHEOLWR LLWYFAN TECHNEGOLDISGRIFIAD O’R SWYDD

Yn atebol i’r Rheolwr Cynhyrchu, mae We Made This yn chwilio am Reolwr Llwyfan Technegol i weithio ar y cynhyrchiad Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair, sef drama uchelgeisiol ac ysgogol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc sy’n defnyddio stori Rapunzel ac yn ei hail-greu ar gyfer ein hoes ni. Cafodd y prosiect hwn ei ysbrydoli gan ein profiadau o adrodd straeon i’n plant ein hunain a’n dyhead iddynt brofi theatr o safon, nad yw’n cynnal stereoteipiau rhywiaethol.

Dyma rôl allweddol yn y tîm cynhyrchu ar gyfer Rheolwr Llwyfan Technegol â rhywfaint o brofiad a diddordeb mewn dyfeisio gwaith newydd a gweithio’n ddwyieithog.

Cwmni yw We Made This y mae ei enw’n esbonio natur gydweithredol ein proses. Nid ydym yn defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig ar wahân i’r ffaith bod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, rydym wedi’n lleoli yn ne Cymru, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Gyrru’r fan rhwng lleoliadau.
  • Mynychu ymarferion.
  • Ail-greu’r cynllun goleuadau ar gyfer lleoliadau’r daith
  • Helpu i  gynnal a chadw’r set.
  • Helpu i osod a chynnal a chadw’r propiau.
  • Rigio a gosod y set.
  • Mynychu ac arwain y gwaith o osod y set yn y ddau leoliad.
  • Rheoli’r llawr yn ystod y sioe a rhoi ciwiau yn ôl y gofyn.
  • Helpu i olchi a chynnal a chadw’r gwisgoedd yn ystod wythnosau’r perfformiad.
  • Gweithio ochr yn ochr â’r Dirprwy Reolwr Llwyfan.
  • Tasgau perthnasol eraill fel y gofynnir amdanynt gan y cyfarwyddwr a’r cwmni.

Manyleb y Person

  • Y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
  • Profiad o’r broses ddyfeisio.
  • Profiad o rigio a ffocysu.
  • Trwydded yrru car lawn a glân.
  • Sgiliau gwaith coed.
  • Ymagwedd hunangynhaliol at waith.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Agwedd gadarnhaol.
  • Ymagwedd hyblyg a pharodrwydd i addasu i amgylchiadau sy’n newid.

Dyddiadau a Chyflog

Dyddiadau ymarferion: (Caerdydd) 11 Mawrth – 6 Ebrill 2019

Ymarferion technegol: 8 Ebrill 2019 yn Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon

Lleoliadau’r Perfformiadau: Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon, Chapter, Theatr Brycheiniog, Neuadd Goffa’r Barri, Canolfan Celfyddydau Pontardawe, Glan-yr-Afon Casnewydd, Theatr Clwyd. Yn gorffen 26 Mai 2019.

£500 yr wythnos (contract 11 wythnos), darperir treuliau dyddiol pan ar daith ynghyd â llety.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd, anfonwch eich CV (heb fod yn fwy na dwy dudalen) a llythyr eglurhaol yn nodi eich profiad perthnasol allweddol a sut rydych yn bodloni manyleb y person erbyn dydd Iau 20 Rhagfyr 2018.

Anfonwch eich ffurflen gais trwy e-bost i hello@wemadethis.org.uk. Byddwn yn ceisio cysylltu â’r holl ymgeiswyr i ddweud wrthynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ond sylwer efallai na fydd yn bosib rhoi adborth manwl.

TECHNICAL STAGE MANAGER – JOB DESCRIPTION

Reporting to the Production Manager We Made This is seeking a Technical Stage Manager to work Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair, which is an ambitious immersive work for young audiences that takes the story of Rapunzel and reimagines it for our times. This project was inspired by our experiences of telling stories to our own children and wanting them to experience high quality theatre, which doesn’t perpetuate sexist stereotypes.

This is a key role in the production team for a Tech Stage Manager with some experience and interest of devising new work and working bilingually.

We Made This is a company whose name makes explicit the collaborative nature of our process. We don’t subscribe to a style or methodology other than the form is dictated by the idea. Founded by Matt Ball and Jacqui George in 2014, we’re based in South Wales, and for each project we work with a collection of artists & makers based on the needs of the project.

Main Duties and Responsibilities

  • Driving the van between venues.
  • Attending rehearsals.
  • Re-Light in Tour Venues
  • Assisting with set maintenance.
  • Assisting with prop setting and maintenance.
  • Rigging and set fit up.
  • Attending and leading on the get-in at all venues.
  • To run the floor during the show and execute cues as required.
  • To assist with wardrobe laundry and maintenance during performance weeks.
  • To work alongside the Deputy Stage Manager.
  • Other relevant tasks as requested by the Director and the company.

Person Specification

  • Welsh Language desirable.
  • Experience of the devising process.
  • Experience of rigging and focussing.
  • Full clean driving licence.
  • Carpentry Skills.
  • A self-sufficient approach to work.
  • Excellent communication skills.
  • A positive attitude.
  • A flexible approach and willingness to adapt to changing circumstances.

Dates & Salary

Rehearsals dates: (Cardiff) 11th March – 6th April 2019

Technical rehearsals: 8th April 2019 Blackwood Miner’s Institute

Performance Venues: Blackwood Miner’s Institute, Chapter, Theatr Brycheiniog, Barry Memo, Pontardawe Arts Centre, Riverfront Newport, Theatr Clwyd. Finishing 26th May 2019.

£500 per week (11 week contract), PD’s when on tour and accommodation provided.

How to Apply

To apply for the post please send in a CV (no more than two pages) and cover letter detailing your key relevant experience and how you meet the person specification by Thursday 20th December 2018.

Please send your application by email to hello@wemadethis.org.uk We will endeavour to contact all applications to inform them whether they are successful or not but please note it may not be possible to give detailed feedback.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *