STAGE MANAGER ON THE BOOK – JOB DESCRIPTION / RHEOLWR LLWYFAN AR Y LLYFR – DISGRIFIAD SWYDD

STAGE MANAGER ON THE BOOK – JOB DESCRIPTION

Reporting to the Production Manager We Made This is seeking a Stage Manager on the Book to work The Girl with Incredibly Long Hair, which is an ambitious immersive work for young audiences. It takes the story of Rapunzel and reimagines it for our times, where we don’t expect the girl to need saving by the boy, and in which female characters can shape their own destiny. This project is inspired by our experiences of telling stories to our own children and wanting them to experience high quality theatre, which doesn’t perpetuate sexist stereotypes.

This is a key role in the production team for a Stage Manager with some experience and interest of devising new work.

We Made This is a new company whose name makes explicit the collaborative nature of our process. We don’t subscribe to a style or methodology other than the form is dictated by the idea. Founded by Matt Ball and Jacqui George in 2014, we’re based in South Wales, and for each project we work with a collection of artists & makers based on the needs of the project.

  • Main Duties and Responsibilities
  • Attending rehearsals.
  • Compiling rehearsal reports and rehearsal calls.
  • Creating and monitoring the rehearsal schedule.
  • Calling and operating sound for the show.
  • Maintaining the rehearsal room.
  • Assisting with propping
  • Pastoral welfare of the company.
  • Attending and assisting on the get-in at both venues.
  • To manage and work alongside the Technical ASM from the get n period.
  • Other relevant tasks as requested by the Director and the company.

Person Specification

  • Experience of creating a book from scratch.
  • Experience of the devising process.
  • Experience of cueing.
  • Experience of operating and problem solving QLab.
  • Full clean driving licence.
  • A self-sufficient approach to work.
  • Excellent communication skills.
  • Ability to relate to and communicate with a wide range of people, including artists.
  • A positive attitude.
  • A flexible approach and willingness to adapt to changing circumstances.

Dates & Salary

Rehearsals dates: (Cardiff) 5th – 29th March 2018

Technical rehearsals: 3rd April 2018 Blackwood Miner’s Institute, 8th April 2018 Weston Studio, WMC

Performance Dates: 4th – 6th April 2018 Blackwood Miner’s Institute, 9th – 13th April 2018 Weston Studio WMC £500 per week (6 week contract)

How to Apply

To apply for the post please send in a CV (no more than two pages) and cover letter detailing your key relevant experience and how you meet the person specification by Friday 12th January 2018.

Please send your application for the attention of Jacqui George by email to hello@wemadethis.org.uk. We will endeavour to contact all applications to inform them whether they are successful or not but please note it may not be possible to give detailed feedback.

RHEOLWR LLWYFAN AR Y LLYFR – DISGRIFIAD SWYDD

Yn atebol i’r Rheolwr Cynhyrchu, mae We Made This yn chwilio am Reolwr Llwyfan ar y Llyfr i weithio ar y cynhyrchiad The Girl with Incredibly Long Hair, sy’n ddrama uchelgeisiol ymdrochol i gynulleidfaoedd ifanc. Mae’n defnyddio stori Rapunzel ac yn ei hailddychmygu ar gyfer ein hoes, lle nad ydym yn disgwyl bod angen i’r bachgen achub y ferch, a lle mae’r cymeriadau benywaidd yn gallu llunio’u tynged eu hunain. Mae’r prosiect hwn wedi’i ysbrydoli gan ein profiadau o adrodd straeon i’n plant ein hunain a bod am iddynt brofi theatr o safon, nad yw’n bytholi ystrydebau rhywiaethol.

Dyma rôl allweddol yn y tîm cynhyrchu ar gyfer Rheolwr Llwyfan â rhywfaint o brofiad a diddordeb mewn dyfeisio gwaith newydd.

Cwmni newydd yw We Made This y mae ei enw’n esbonio natur gydweithiol ein proses. Nid ydym yn defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig oni bai bod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, rydym wedi’n lleoli yn ne Cymru, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Mynychu ymarferion.
  • Llunio adroddiadau ymarfer a galwadau am ymarferion.
  • Llunio a monitro’r amserlen ymarfer.
  • Galw a gweithredu’r sain ar gyfer y sioe.
  • Cynnal a chadw’r ystafell ymarfer.
  • Helpu gyda threfnu propiau.
  • Llesiant bugeiliol y cwmni.
  • Mynychu a chynorthwyo wrth symud y set yn y ddau leoliad.
  • Rheoli a gweithio gyda’r Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol technegol o’r cyfnod symud set.
  • Tasgau perthnasol eraill fel y gofynnir amdanynt gan y cyfarwyddwr a’r cwmni.

Manyleb Person

  • Profiad o lunio llyfr o’r newydd.
  • Profiad o’r broses ddyfeisio.
  • Profiad o greu ciwiau.
  • Profiad o weithredu a datrys problemau QLab.
  • Trwydded yrru car lawn lân.
  • Ymagwedd hunangynhaliol at waith.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Y gallu i gysylltu a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys artistiaid.
  • Ymagwedd gadarnhaol.
  • Ymagwedd hyblyg a pharodrwydd i addasu i amgylchiadau sy’n newid.

Dyddiadau a Chyflog

Dyddiadau ymarferion: (Caerdydd) 5 – 29 Mawrth 2018 Ymarferion technegol: 3 Ebrill 2018: Sefydliad y Glowyr Coed Duon; 8 Ebrill 2018: Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiadau’r perfformiadau: 4 – 6 Ebrill 2018: Sefydliad y Glowyr Coed Duon; 9 – 13 Ebrill 2018: Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru £500 yr wythnos (contract chwe wythnos)

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd, anfonwch eich CV (heb fod yn hwy na dwy dudalen) a llythyr eglurhaol yn nodi eich profiad perthnasol allweddol a sut rydych yn bodloni manyleb y person erbyn dydd Gwener 12 Ionawr 2018.

Anfonwch eich ffurflen cais at sylw Jacqui George drwy e-bost i hello@wemadethis.org.uk. Byddwn yn ceisio cysylltu â’r holl ymgeiswyr i ddweud wrthynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ond sylwer efallai na fydd yn bosib rhoi adborth manwl.