Mae We Made This yn chwilio am dri pherfformiwr i weithio ar sioe deithiol Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir sef drama uchelgeisiol ac ysgogol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc sy’n defnyddio stori Rapunzel a’i hail-greu ar gyfer ein hoes ni. Cafodd y prosiect hwn ei ysbrydoli gan ein profiadau ni o adrodd straeon i’n plant ein hunain a’n dyhead iddynt brofi theatr o safon, nad yw’n cynnal stereoteipiau rhywiaethol.
Wedi’i chynhyrchu’n wreiddiol yn 2018, gwerthwyd tocynnau’r sioe i gyd yn Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru, ac mae’n cael ei hail-greu fel sioe deithiol, wedi’i chynhyrchu’n Gymraeg a Saesneg.
Cwmni yw We Made This y mae ei enw’n esbonio natur gydweithredol ein proses. Nid ydym yn defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig ar wahân i’r ffaith bod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, rydym wedi’n lleoli yn ne Cymru, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.
Dadansoddiad
Rapunzel (Merch)
Eofn, deallus a phenderfynol. Mae Rapunzel wrth ei bodd yn darllen, gwneud pethau mentrus a mynd ar anturiaethau; ac mae ganddi wallt hynod hir.
Daf (Dyn)
Cymeriad sy’n ofni popeth. Mae wrth ei fodd yn pobi ac mae eisiau mynd ar anturiaethau ond ni fyddai’n mentro mynd heb Rapunzel.
Bydd y perfformiwr hwn hefyd yn chwarae rhan Dyn y Banc, sy’n awdurdodol ac yn ddeddfol ym mhob dim mae’n ei wneud.
Mam (Merch)
Mam Rapunzel, yn mwynhau garddio ac yn seryddwraig. Mae’n ddeallus ac yn anghofus, yn cadw trefn ar Rapunzel ond mae wedi anghofio talu ei biliau.
Bydd y perfformiwr hwn hefyd yn chwarae rôl Beirniad Record y Byd – merch eofn, chwerw sy’n byw yng nghanol dyfnderoedd y Goedwig Dywyll.
Mae’n rhaid bod pob perfformiwr yn gallu perfformio’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg, yn gallu canu, yn meddu ar sgiliau symud ac â diddordeb mewn creu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.
Nid ydym yn rhoi disgrifiad corfforol (hil, taldra, neu liw gwallt) o’r cymeriadau – bydd hynny’n dod o’r perfformwyr, ond bydd angen i’r ddau berfformiwr sy’n chwarae cymeriadau ifanc fod ag ysbryd / egni ifanc, a bydd angen i’r perfformiwr sy’n chwarae rôl y fam fod yn hŷn na’i merch.
Dyddiadau a Chyflog
Bydd ymgysylltu o 11 Mawrth – 26 mai (11 wythnos yn llawn amser)
£500 yr wythnos, darperir treuliau dyddiol pan ar daith ynghyd â llety.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd, anfonwch lun o’ch wyneb, dolen i’ch proffil ar Spotlight/ CV a llythyr eglurhaol cryno dros yr e-bost yn nodi eich profiad perthnasol allweddol a pham yr hoffech weithio gyda ni erbyn dydd Gwener 14 Rhagfyr 2018.
Bydd clyweliadau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 8 Ionawr 2019.
Anfonwch eich ffurflen gais drwy e-bost at hello@wemadethis.org.uk. Byddwn yn ceisio cysylltu â’r holl ymgeiswyr i ddweud wrthynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ond sylwer efallai na fydd yn bosib rhoi adborth manwl.
Casting Breakdown
We Made This are seeking three performers to work on the tour of Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair, an ambitious immersive work for young audiences that takes the story of Rapunzel and reimagines it for our times. This project was inspired by our experiences of telling stories to our own children and wanting them to experience high quality theatre, which doesn’t perpetuate sexist stereotypes.
Originally produced in 2018, the show sold out at Blackwood Miners Institute and Wales Millenium Centre, and is being re-created to tour, and will be produced in both English and Welsh.
We Made This is a company whose name makes explicit the collaborative nature of our process. We don’t subscribe to a style or methodology other than the form is dictated by the idea. Founded by Matt Ball and Jacqui George in 2014, we’re based in South Wales, and for each project we work with a collection of artists & makers based on the needs of the project.
Breakdown
Rapunzel (Female)
Feisty, intelligent and determined. Rapunzel loves reading, setting records and going on adventures; and has incredibly long hair.
Daf (Male)
A big scaredy cat. He loves baking and wants to go on adventures but wouldn’t dare if it weren’t for Rapunzel.
This performer will also play the role of the Bank Man, who is officious and does everything by the book.
Mam (Female)
Rapunzel’s mother, a gardener & astronomer. Intelligent and forgetful, she keeps Rapunzel in check but has forgotten to pay her bills.
This performer will also play the role of the World Records Adjudicator – a Feisty, bitter woman who lives in the heart of the Deep Dark Wood.
All performers must be able to perform fluently in both English and Welsh, be able to hold a tune, have movement skills and be interested in making work for young audiences.
We’re not giving the physical description (race, height, hair colour) of the characters – that will come from the performers, but the two performers who play young characters will need a childlike enthusiasm / energy, and the performer playing Mam needs play older than her daughter.
Dates & Salary
Engagement is from 11th March – 26th May (11 weeks Full Time)
£500 per week, PD’s when on tour and accommodation provided.
How to Apply
To apply for the post please send in a headshot, Spotlight Link/ CV and brief cover email detailing your key relevant experience and why you’d like to work with us by Friday 14th December 2018.
Auditions will be held in Cardiff on 8th January 2019.
Please send your application by email to hello@wemadethis.org.uk. We will endeavour to contact all applications to inform them whether they are successful or not but please note it won’t be possible to give detailed feedback.