Category Archives: Uncategorized

Datganiad i’r Wasg

Mae ail-ddychmygu stori Rapynsel yn dychwelyd am ail daith yn dilyn adolygiadau brwd

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Chapter.

Mae We Made This yn falch o gyhoeddi y byddant yn mynd â’r sioe Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair, sef ailddychmygiad o Rapynsel, ar daith y Gwanwyn hwn. Yn gynhyrchiad theatr uchelgeisiol a hollgynhwysol i gynulleidfaoedd ifanc, gwerthwyd pob tocyn i’r perfformiadau o The Girl with Incredibly Long Hair yn y Coed Duon a Chaerdydd yn 2018. Mae’n dychwelyd yn awr gyda thaith estynedig a fersiwn newydd Gymraeg i’w hychwanegu, Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir.

Gwahoddir teuluoedd i ymuno â Rapynsel, ei Mam, a’i ffrind newydd, Daf, wrth iddynt fynd ar antur i ganol y goedwig. Byddwch yn barod i ymgolli yn ei golygfeydd, ei seiniau a’i harogleuon, wrth i’r stori ddatblygu o’ch amgylch. Sioe deulu newydd yw The Girl with Incredibly Long Hair gan We Made This sy’n ail-ddychmygu stori Rapynsel ar gyfer ein hoes ni, ac sy’n addo bod yn brofiad bythgofiadwy i’r teulu cyfan.

Bydd Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair yn agor yn Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon ar 10 a 11 Ebrill, cyn teithio i Ganolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, Theatr Brycheiniog, Canolfan Celfyddydau Memo y Barri, Canolfan Celfyddydau Pontardawe, Canolfan Celfyddydau Glan yr Afon, gan orffen yn Theatr Clwyd ar 23-25 Mai.  Bydd pob lleoliad ar y daith yn cynnig perfformiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r cast newydd yn cynnwys Tonya Smith (Mam), Owen Alun (Daf) a Lara Catrin (Rapynsel). Cyfieithwyd fersiwn Gymraeg y sioe gan Catrin Wyn Lewis.

Meddai Matt Ball, y cyfarwyddwr;
 “Tyfodd y sioe o sgyrsiau ynghylch y straeon amser gwely rydym yn eu darllen i’n plant. Roedd hi’n rhwystredig i ni yn yr 21ain ganrif fod cynifer o lyfrau plant yn parhau i gynnig darlun hen ffasiwn iawn o’r byd. Sawl stori sy’n cynnwys tywysoges yn aros i gael ei hachub gan dywysog neu ferch sy’n hoffi ffrogiau disglair a bachgen sy’n hoffi bod yn fwdlyd?

O’r trafodaethau hyn y deilliodd The Girl with the Incredibly Long Hair; ailddychmygiad o Rapynsel, lle nad oes rhaid iddi gael ei hachub gan y tywysog. Dyma’r math o sioe rydym am i’n plant ei gweld.

Eleni rydym yn ychwanegu fersiwn Gymraeg o’r sioe, fel y gellir mwynhau ein rebel Rapynsel a’n gwas pobydd Daf yn nwy iaith ein cenedl. Ni allwn aros i rannu’r stori hon â chynulleidfaoedd ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru’r Gwanwyn hwn.”

Cynigir perfformiadau ymlaciedig yng Nghaerdydd sy’n agored i unrhyw un, ond fe’u bwriedir ar gyfer pobl ag anghenion arbennig sy’n ei chael hi’n anodd mynd i’r theatr, yn enwedig pobl sydd ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig, anabledd dysgu neu anhwylder synhwyraidd a chyfathrebu. Bydd dau berfformiad Iaith Arwyddion Prydain wedi’u dehongli yn ystod y daith – un yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter ac un yng Nghanolfan Celfyddydau Memo y Barri.

Cwmni Theatr yw We Made This ac mae’r enw’n esbonio natur gydweithiol y gwaith. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, mae wedi’i leoli ym Mhontypridd, ac ar gyfer pob prosiect maent yn cydweithio gydag artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.

Manylion y perfformiadau

We Made This

Y Pasg hwn, ymunwch â Rapynsel, ei mam, a’i chyfaill newydd, Daf, yn y goedwig wrth iddynt ddechrau ar antur y bydd angen eich help chi ar ei chyfer. Sioe newydd i’r teulu yw Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir gan We Made This sy’n ailddychmygu stori Rapynsel ar gyfer ein hoes ni.         

*****  “…awr o hud a lledrith […] cynhyrchiad ysbrydoledig.[…] Roedd y gynulleidfa ifanc wedi’u swyno o’r dechrau i’r diwedd…. The Western Mail   

Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Chapter.

Cefnogwyd yn wreiddiol mewn partneriaeth gyda Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru gyda chefnogaeth gan Creu Cymru.

We Made This

The Girl with Incredibly Long Hair

This Easter join Rapunzel, her Mam, and her new friend Daf in the forest as they set off on an adventure, for which they’ll need your help. Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair is a family show from We Made This which reimagines the story of Rapunzel for our times.       

*****  “…an hour of magic […] an inspired production.[…] The young audience were spellbound from start to finish….” The Western Mail   

Supported by Arts Council of Wales, Blackwood Miners Institute & Chapter.

Originally made in partnership with Blackwood Miners’ Institute and Wales Millennium Centre, and supported by Creu Cymru.

 Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon / Blackwood Miners Institute/

10 Ebrill / April   10am (Saesneg)

                         1.30pm (Saesneg)

                         4.30pm(Saesneg)

11 Ebrill / April   10am (Cymraeg)

                         1.30pm (Cymraeg)

blackwoodminersinstitute.com / 01495 227206 

Chapter, Caerdydd/Cardiff

13 Ebrill / April  11am (Saesneg) & 2pm (Cymraeg)

*14 Ebrill / April  11am ( Cymraeg) & 2pm (Saesneg)

*Perfformiadau Ymlaciedig

16 Ebrill / April  11am (Saesneg) & 2pm** (Saesneg)

**Perfformiad wedi’i ddehongli

17 Ebrill / April  11am (Cymraeg) & 2pm (Cymraeg)

18 Ebrill / April  11am (Saesneg) & 2pm (Saesneg)

chapter.org / 029 2030 4400

Theatr Brycheiniog

26 Ebrill / April  6pm (Saesneg)

27 Ebrill / April  11am (Cymraeg) & 2pm (Saesneg)

brycheiniog.co uk / 01874 611622

Canolfan y Celfyddydau Memo Arts Centre, Y Barri / Barry

7 Mai/May  5pm (Saesneg)

8 Mai/May  10am** (Saesneg) & 1.30pm (Cymraeg)
**Perfformiad wedi’i ddehongli

memoartscentre.co.uk / 01446 738622

Canolfan Celfyddydau Pontardawe

15 Mai/May  5.30pm (Saesneg)

16 Mai/May 10am (Saesneg) & 1pm (Cymraeg)

npttheatres.co.uk / 01792 863722

Glan yr Afon, Casnewydd/Newport

17 Mai/May  5.30pm (Saesneg)

18 Mai/May  11.30am (Cymraeg)

                     2.30pm (Saesneg)

newportlive.co.uk/riverfront / 01633 656679

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug/ Mold

23 Mai/May  4.30pm (Saesneg)

24 Mai/May  10.30am (Cymraeg) & 4.30pm(Saesneg)

25 Mai/May  10.30am (Saesneg) & 1.30pm (Cymraeg)

www.theatrclwyd.com / 01352 701521

Cast
Tonya Smith (Mam)
Owen Alun (Daf)
Lara Catrin (Rapynsel)

Awdur a Chyfarwyddwr: Matt Ball
Cyfieithydd: Catrin Wyn Lewis
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Ceri Elen
Dyluniwr Sain: Sam Jones
Dyluniwr: Alison Neighbour
Dyluniwr Goleuadau: Elanor Higgins

Rheolwr y Cynhyrchiad: Matt Davies
Dirprwy Reolwr Llwyfan: Garrin Clarke
Rheolwr Llwyfan Technegol: Paul Brown
Cynhyrchydd: Nia Skyrme
Swyddog y Wasg a Marchnata: Lowri Johnston
Swyddog Ymgysylltu Cymunedol: Penni Carr, Llinos Jones, Daisy Williams

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu tocynnau i’r wasg a chyfweliadau, cysylltwch â Lowri Johnston: lowri.johnston@gmail.com / 07817 558833

Press Release

Reimagining of Rapunzel back for a second tour following rave reviews

Supported by Arts Council of Wales, Blackwood Miners Institute & Chapter.

We Made This are delighted to announce that they will be touring The Girl with Incredibly Long Hair, a reimagining of Rapunzel this Spring  An ambitious and immersive theatre production for young audiences, The Girl with Incredibly Long Hair played to a sell-out and delighted audience in Blackwood and Cardiff in 2018.  It now returns with an extended tour and a new Welsh version to add, Y Ferch gydar Gwallt Hynod Hir.

Families are invited to join Rapunzel, her Mam, and her new friend Daf as they set off on an adventure to the heart of the forest and be immersed in its sights, sounds and smells, with the story unfolding all around the audience.  The Girl with Incredibly Long Hair is a new family show from We Made This which reimagines the story of Rapunzel for our times, and promises an unforgettable experience for the whole family.

The Girl with Incredibly Long Hair will open in Blackwood MinersInstitute on April 10th and 11th, before travelling to Chapter Arts Centre Cardiff, Theatr Brycheiniog, Memo Arts Centre in Barry, Pontardawe Arts Centre, Riverfront Arts Centre, finishing in Theatr Clwyd May 23-25th.  Each venue of the tour will offer performances in both Welsh and English.

The new cast include Tonya Smith (Mam), Owen Alun (Daf) and Lara Catrin (Rapunzel).  The Welsh version of the show is translated by Catrin Wyn Lewis.

Director Matt Ball said;
The show grew out of conversations about the bedtime stories we read our children. It frustrated us that in the 21st century so many children’s books still have a very old fashioned view of the world. How many stories have a Princess waiting to be saved by Prince or a girl who likes sparkly dresses and a boy who gets muddy?

Out of these discussions The Girl with an Incredibly Long Hair was born; a reimagining of Rapunzel, where she doesnt need to be saved by the prince. It’s the kind of show we want our own kids to see.

This year we’re adding a Welsh language version of the show, so that out rebel girl Rapunzel and baker boy Daf can be enjoyed in both of our nations’ languages.  We can’t wait to share this story with young audiences and their families in across Wales this Spring.”

Relaxed performances will be offered in Cardiff which are open to anyone, but are intended to cater for people with special needs who may find going to the theatre challenging, in particular people with an Autistic Spectrum Condition, learning disability or sensory and communication disorder. There will be two BSL interpreted performances during the tour, at Chapter Arts Centre and Barry Memo Arts Centre.


We Made This is a company whose name makes explicit the collaborative nature of how we make work. Founded by Matt Ball and Jacqui George in 2014, they’re based in Pontypridd, and for each project they collaborate with artists & makers based on the needs of the project.

Listings details

We Made This

The Girl with Incredibly Long Hair

This Easter join Rapunzel, her Mam, and her new friend Daf in the forest as they set off on an adventure, for which they’ll need your help.  Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair is a family show from We Made This which reimagines the story of Rapunzel for our times.       

*****  “…an hour of magic […] an inspired production.[…] The young audience were spellbound from start to finish….” The Western Mail   

Supported by Arts Council of Wales, Blackwood Miners Institute & Chapter.

Originally made in partnership with Blackwood Miners’ Institute and Wales Millennium Centre, and supported by Creu Cymru.

We Made This

Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir

Y Pasg hwn, ymunwch â Rapunzel, ei mam, a’i chyfaill newydd, Daf, yn y goedwig wrth iddynt ddechrau ar antur y bydd angen eich help chi ar ei chyfer.  Sioe newydd i’r teulu yw Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir gan We Made This sy’n ailddychmygu stori Rapunzel ar gyfer ein hoes ni.         

*****  “…an hour of magic […] an inspired production.[…] The young audience were spellbound from start to finish….” The Western Mail   

Cefnogwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Chapter.

Cefnogwyd yn wreiddiol mewn partneriaeth gyda Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru gyda chefnogateh gan Creu Cymru.                       

Blackwood Miners Institute/Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Ebrill / April 10  10am (English)

                         1.30pm (English)

                         4.30pm(English)

Ebrill / April 11  10am (Cymraeg)

                         1.30pm (Cymraeg)

blackwoodminersinstitute.com / 01495 227206 

Chapter, Caerdydd/Cardiff

Ebrill / April 13 11am (English) & 2pm (Cymraeg)

Ebrill / April 14* 11am ( Cymraeg) & 2pm ( English)

*Relaxed Performances

Ebrill / April 16 11am (English) & 2pm** (English)

** BSL Interpreted Performance

Ebrill / April 17 11am (Cymraeg) & 2pm (Cymraeg)

Ebrill / April 18 11am ( English) & 2pm (English)

chapter.org / 029 2030 4400

Theatr Brycheiniog

Ebrill / April 26 6pm (English)

Ebrill / April 27 11am (Cymraeg) & 2pm (English)

brycheiniog.co uk / 01874 611622

Canolfan y Celfyddydau Memo Arts Centre, Y Barri / Barry

Mai / May 7 5pm (English)

Mai / May 8 10am** ( English) & 1.30pm (Cymraeg)

memoartscentre.co.uk / 01446 738622
** BSL Interpreted Performance

Pontardawe Arts Centre

Mai / May 15 5.30pm (English)

Mai / May 16 10am ( English) & 1pm ( Welsh)

npttheatres.co.uk / 01792 863722

Riverfront, Casnewydd/Newport

Mai / May 17 5.30pm (English)

Mai / May 18 11.30am (Cymraeg)

                     2.30pm (English)

newportlive.co.uk/riverfront / 01633 656679

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug/ Mold

Mai / May 23 4.30pm (English)

Mai / May 24 10.30am (Cymraeg) & 4.30pm( English)

Mai / May 25 10.30am (English) & 1.30pm (Cymraeg)

www.theatrclwyd.com / 01352 701521

Cast
Tonya Smith (Mam)
Owen Alun (Daf)
Lara Catrin (Rapunzel)

Writer & Director: Matt Ball
Translator: Catrin Wyn Lewis
Assistant Director: Ceri Elen
Sound Designer: Sam Jones
Designer: Alison Neighbour
Lighting Designer: Elanor Higgins

Production Manager: Matt Davies
Deputy Stage Manager: Garrin Clarke
Technical Stage Manager: Paul Brown
Producer: Nia Skyrme
Press and Marketing Officer: Lowri Johnston
Community Engagement Officer: Penni Carr, Llinos Jones, Daisy Williams

For further information and to arrange press tickets and interviews please contact Lowri Johnston: lowri.johnston@gmail.com / 07817 558833

DSM

DIRPRWY REOLWR LLWYFAN– DISGRIFIAD O’R SWYDD

Yn atebol i’r Rheolwr Cynhyrchu, mae We Made This yn chwilio am Ddirprwy Reolwr Llwyfan ar gyfer Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair, sef drama uchelgeisiol ac ysgogol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc sy’n defnyddio stori Rapunzel ac yn ei hail-greu ar gyfer ein hoes ni. Cafodd y prosiect hwn ei ysbrydoli gan ein profiadau ni o adrodd straeon i’n plant ein hunain a’n dyhead iddynt brofi theatr o safon, nad yw’n cynnal stereoteipiau rhywiaethol.

Wedi’i gynhyrchu’n wreiddiol yn 2018, gwerthwyd tocynnau’r sioe i gyd yn Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru, ac mae’n cael ei hail-greu fel sioe deithiol, wedi’i chynhyrchu’n Gymraeg a Saesneg. Dyma rôl allweddol yn y tîm cynhyrchu ar gyfer Dirprwy Reolwr Llwyfan â rhywfaint o brofiad a diddordeb mewn dyfeisio gwaith newydd a gweithio’n ddwyieithog.

Cwmni yw We Made This y mae ei enw’n esbonio natur gydweithredol ein proses. Nid ydym yn defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig ar wahân i’r ffaith bod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, rydym wedi’n lleoli yn ne Cymru, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Mynychu ymarferion.
  • Llunio adroddiadau ymarfer a galwadau am ymarferion.
  • Llunio a monitro’r amserlen ymarfer.
  • Galw a gweithredu’r sain a goleuadau ar gyfer y sioe.
  • Cynnal a chadw’r ystafell ymarfer.
  • Gosod a chynnal a chadw propiau.
  • Helpu gyda threfnu propiau.
  • Llesiant bugeiliol y cwmni.
  • Mynychu a chynorthwyo gyda’r gwaith gosod a dymchwel ym mhob lleoliad.
  • Glanhau a chynnal a chadw’r gwisgoedd.
  • Rheoli a gweithio ochr yn ochr â’r Rheolwr Llwyfan Technegol o’r cyfnod gosod.
  • Tasgau perthnasol eraill fel y gofynnir amdanynt gan y cyfarwyddwr a’r cwmni.

 

Manyleb y Person

  • Profiad o’r broses ddyfeisio.
  • Y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
  • Profiad o greu ciwiau.
  • Profiad o weithredu a datrys problemau QLab.
  • Trwydded yrru car lawn a glân.
  • Ymagwedd hunangynhaliol at waith.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Y gallu i gysylltu a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys artistiaid.
  • Agwedd gadarnhaol.
  • Ymagwedd hyblyg a pharodrwydd i addasu i amgylchiadau sy’n newid.

Dyddiadau a Chyflog

Dyddiadau ymarferion: (Caerdydd) 11 Mawrth – 6 Ebrill 2019

Ymarferion technegol: 8 Ebrill 2019 yn Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon

Lleoliadau’r Perfformiadau Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon, Chapter, Theatr Brycheiniog, Neuadd Goffa’r Barri, Canolfan Celfyddydau Pontardawe, Glan-yr-Afon Casnewydd, Theatr Clwyd. Yn gorffen 26 Mai 2019.

£500 yr wythnos (contract 11 wythnos), darperir treuliau dyddiol pan ar daith ynghyd â llety.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd, anfonwch eich CV (heb fod yn fwy na dwy dudalen) a llythyr eglurhaol yn nodi eich profiad perthnasol allweddol a sut rydych yn bodloni manyleb y person erbyn dydd Iau 20 Rhagfyr 2018.

Anfonwch eich ffurflen gais trwy e-bost i hello@wemadethis.org.uk. Byddwn yn ceisio cysylltu â’r holl ymgeiswyr i ddweud wrthynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ond sylwer efallai na fydd yn bosib rhoi adborth manwl.

 

 

 

DEPUTY STAGE MANAGER– JOB DESCRIPTION

Reporting to the Production Manager We Made This is seeking a Deputy Stage Manager for Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair, which is an ambitious immersive work for young audiences that takes the story of Rapunzel and reimagines it for our times. This project was inspired by our experiences of telling stories to our own children and wanting them to experience high quality theatre, which doesn’t perpetuate sexist stereotypes.

Originally produced in 2018, the show sold out at Blackwood Miners Institute and Wales Millenium Centre, and is being re-created to tour, and will be produced in both English and Welsh. This is a key role in the production team for a Deputy Stage Manager with some experience and interest of devising new work and working bilingually.

We Made This is a company whose name makes explicit the collaborative nature of our process. We don’t subscribe to a style or methodology other than the form is dictated by the idea. Founded by Matt Ball and Jacqui George in 2014, we’re based in South Wales, and for each project we work with a collection of artists & makers based on the needs of the project.

Main Duties and Responsibilities

  • Attending rehearsals.
  • Compiling rehearsal reports and rehearsal calls.
  • Creating and monitoring the rehearsal schedule.
  • Calling and operating sound and lighting for the show.
  • Maintaining the rehearsal room.
  • Prop Setting & Maintenance.
  • Assisting with propping
  • Pastoral welfare of the company.
  • Attending and assisting on the get-in and strike at all venues.
  • Wardrobe Cleaning and Maintenance.
  • To manage and work alongside the Technical Stage Manager from the get in period.
  • Other relevant tasks as requested by the Director and the company.

 

Person Specification

 

  • Experience of the devising process.
  • Welsh Language desirable.
  • Experience of cueing.
  • Experience of operating and problem solving QLab.
  • Full clean driving licence.
  • A self-sufficient approach to work.
  • Excellent communication skills.
  • Ability to relate to and communicate with a wide range of people, including artists.
  • A positive attitude.
  • A flexible approach and willingness to adapt to changing circumstances.

 

Dates & Salary

Rehearsals dates: (Cardiff) 11th March – 6th April 2019

Technical rehearsals: 8th April 2019 Blackwood Miner’s Institute

Performance Venues: Blackwood Miner’s Institute, Chapter, Theatr Brycheiniog, Barry Memo, Pontardawe Arts Centre, Riverfront Newport, Theatr Clwyd. Finishing 26th May 2019.

£500 per week (11 week contract), PD’s when on tour and accommodation provided.

How to Apply

To apply for the post please send in a CV (no more than two pages) and cover letter detailing your key relevant experience and how you meet the person specification by Thursday 20th December 2018.

Please send your application by email to hello@wemadethis.org.uk We will endeavour to contact all applications to inform them whether they are successful or not but please note it may not be possible to give detailed feedback.

 

 

 

 

TECHNICAL STAGE MANAGER / RHEOLWR LLWYFAN TECHNEGOL

 

RHEOLWR LLWYFAN TECHNEGOLDISGRIFIAD O’R SWYDD

Yn atebol i’r Rheolwr Cynhyrchu, mae We Made This yn chwilio am Reolwr Llwyfan Technegol i weithio ar y cynhyrchiad Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair, sef drama uchelgeisiol ac ysgogol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc sy’n defnyddio stori Rapunzel ac yn ei hail-greu ar gyfer ein hoes ni. Cafodd y prosiect hwn ei ysbrydoli gan ein profiadau o adrodd straeon i’n plant ein hunain a’n dyhead iddynt brofi theatr o safon, nad yw’n cynnal stereoteipiau rhywiaethol.

Dyma rôl allweddol yn y tîm cynhyrchu ar gyfer Rheolwr Llwyfan Technegol â rhywfaint o brofiad a diddordeb mewn dyfeisio gwaith newydd a gweithio’n ddwyieithog.

Cwmni yw We Made This y mae ei enw’n esbonio natur gydweithredol ein proses. Nid ydym yn defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig ar wahân i’r ffaith bod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, rydym wedi’n lleoli yn ne Cymru, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Gyrru’r fan rhwng lleoliadau.
  • Mynychu ymarferion.
  • Ail-greu’r cynllun goleuadau ar gyfer lleoliadau’r daith
  • Helpu i  gynnal a chadw’r set.
  • Helpu i osod a chynnal a chadw’r propiau.
  • Rigio a gosod y set.
  • Mynychu ac arwain y gwaith o osod y set yn y ddau leoliad.
  • Rheoli’r llawr yn ystod y sioe a rhoi ciwiau yn ôl y gofyn.
  • Helpu i olchi a chynnal a chadw’r gwisgoedd yn ystod wythnosau’r perfformiad.
  • Gweithio ochr yn ochr â’r Dirprwy Reolwr Llwyfan.
  • Tasgau perthnasol eraill fel y gofynnir amdanynt gan y cyfarwyddwr a’r cwmni.

Manyleb y Person

  • Y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
  • Profiad o’r broses ddyfeisio.
  • Profiad o rigio a ffocysu.
  • Trwydded yrru car lawn a glân.
  • Sgiliau gwaith coed.
  • Ymagwedd hunangynhaliol at waith.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Agwedd gadarnhaol.
  • Ymagwedd hyblyg a pharodrwydd i addasu i amgylchiadau sy’n newid.

Dyddiadau a Chyflog

Dyddiadau ymarferion: (Caerdydd) 11 Mawrth – 6 Ebrill 2019

Ymarferion technegol: 8 Ebrill 2019 yn Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon

Lleoliadau’r Perfformiadau: Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon, Chapter, Theatr Brycheiniog, Neuadd Goffa’r Barri, Canolfan Celfyddydau Pontardawe, Glan-yr-Afon Casnewydd, Theatr Clwyd. Yn gorffen 26 Mai 2019.

£500 yr wythnos (contract 11 wythnos), darperir treuliau dyddiol pan ar daith ynghyd â llety.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd, anfonwch eich CV (heb fod yn fwy na dwy dudalen) a llythyr eglurhaol yn nodi eich profiad perthnasol allweddol a sut rydych yn bodloni manyleb y person erbyn dydd Iau 20 Rhagfyr 2018.

Anfonwch eich ffurflen gais trwy e-bost i hello@wemadethis.org.uk. Byddwn yn ceisio cysylltu â’r holl ymgeiswyr i ddweud wrthynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ond sylwer efallai na fydd yn bosib rhoi adborth manwl.

TECHNICAL STAGE MANAGER – JOB DESCRIPTION

Reporting to the Production Manager We Made This is seeking a Technical Stage Manager to work Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair, which is an ambitious immersive work for young audiences that takes the story of Rapunzel and reimagines it for our times. This project was inspired by our experiences of telling stories to our own children and wanting them to experience high quality theatre, which doesn’t perpetuate sexist stereotypes.

This is a key role in the production team for a Tech Stage Manager with some experience and interest of devising new work and working bilingually.

We Made This is a company whose name makes explicit the collaborative nature of our process. We don’t subscribe to a style or methodology other than the form is dictated by the idea. Founded by Matt Ball and Jacqui George in 2014, we’re based in South Wales, and for each project we work with a collection of artists & makers based on the needs of the project.

Main Duties and Responsibilities

  • Driving the van between venues.
  • Attending rehearsals.
  • Re-Light in Tour Venues
  • Assisting with set maintenance.
  • Assisting with prop setting and maintenance.
  • Rigging and set fit up.
  • Attending and leading on the get-in at all venues.
  • To run the floor during the show and execute cues as required.
  • To assist with wardrobe laundry and maintenance during performance weeks.
  • To work alongside the Deputy Stage Manager.
  • Other relevant tasks as requested by the Director and the company.

Person Specification

  • Welsh Language desirable.
  • Experience of the devising process.
  • Experience of rigging and focussing.
  • Full clean driving licence.
  • Carpentry Skills.
  • A self-sufficient approach to work.
  • Excellent communication skills.
  • A positive attitude.
  • A flexible approach and willingness to adapt to changing circumstances.

Dates & Salary

Rehearsals dates: (Cardiff) 11th March – 6th April 2019

Technical rehearsals: 8th April 2019 Blackwood Miner’s Institute

Performance Venues: Blackwood Miner’s Institute, Chapter, Theatr Brycheiniog, Barry Memo, Pontardawe Arts Centre, Riverfront Newport, Theatr Clwyd. Finishing 26th May 2019.

£500 per week (11 week contract), PD’s when on tour and accommodation provided.

How to Apply

To apply for the post please send in a CV (no more than two pages) and cover letter detailing your key relevant experience and how you meet the person specification by Thursday 20th December 2018.

Please send your application by email to hello@wemadethis.org.uk We will endeavour to contact all applications to inform them whether they are successful or not but please note it may not be possible to give detailed feedback.

Casting / Castio

 

Dadansoddiad o’r cast

Mae We Made This yn chwilio am dri pherfformiwr i weithio ar sioe deithiol Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir  sef drama uchelgeisiol ac ysgogol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc sy’n defnyddio stori Rapunzel a’i hail-greu ar gyfer ein hoes ni. Cafodd y prosiect hwn ei ysbrydoli gan ein profiadau ni o adrodd straeon i’n plant ein hunain a’n dyhead iddynt brofi theatr o safon, nad yw’n cynnal stereoteipiau rhywiaethol.

Wedi’i chynhyrchu’n wreiddiol yn 2018, gwerthwyd tocynnau’r sioe i gyd yn Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru, ac mae’n cael ei hail-greu fel sioe deithiol, wedi’i chynhyrchu’n Gymraeg a Saesneg.

Cwmni yw We Made This y mae ei enw’n esbonio natur gydweithredol ein proses. Nid ydym yn defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig ar wahân i’r ffaith bod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, rydym wedi’n lleoli yn ne Cymru, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.

Dadansoddiad

Rapunzel (Merch)

Eofn, deallus a phenderfynol. Mae Rapunzel wrth ei bodd yn darllen, gwneud pethau mentrus a mynd ar anturiaethau; ac mae ganddi wallt hynod hir.

Daf (Dyn)

Cymeriad sy’n ofni popeth. Mae wrth ei fodd yn pobi ac mae eisiau mynd ar anturiaethau ond ni fyddai’n mentro mynd heb Rapunzel.

Bydd y perfformiwr hwn hefyd yn chwarae rhan Dyn y Banc, sy’n awdurdodol ac yn ddeddfol ym mhob dim mae’n ei wneud.

Mam (Merch)

Mam Rapunzel, yn mwynhau garddio ac yn seryddwraig. Mae’n ddeallus ac yn anghofus, yn cadw trefn ar Rapunzel ond mae wedi anghofio talu ei biliau.

Bydd y perfformiwr hwn hefyd yn chwarae rôl Beirniad Record y Byd – merch eofn, chwerw sy’n byw yng nghanol dyfnderoedd y Goedwig Dywyll.

Mae’n rhaid bod pob perfformiwr yn gallu perfformio’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg, yn gallu canu, yn meddu ar sgiliau symud ac â diddordeb mewn creu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.

Nid ydym yn rhoi disgrifiad corfforol (hil, taldra, neu liw gwallt) o’r cymeriadau – bydd hynny’n dod o’r perfformwyr, ond bydd angen i’r ddau berfformiwr sy’n chwarae cymeriadau ifanc fod ag ysbryd / egni ifanc, a bydd angen i’r perfformiwr sy’n chwarae rôl y fam fod yn hŷn na’i merch.

Dyddiadau a Chyflog

Bydd ymgysylltu o 11 Mawrth – 26 mai (11 wythnos yn llawn amser)

£500 yr wythnos, darperir treuliau dyddiol pan ar daith ynghyd â llety.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd, anfonwch lun o’ch wyneb, dolen i’ch proffil ar Spotlight/ CV  a llythyr eglurhaol cryno dros yr e-bost yn nodi eich profiad perthnasol allweddol a pham yr hoffech weithio gyda ni erbyn dydd Gwener 14 Rhagfyr 2018.

Bydd clyweliadau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 8 Ionawr 2019.

Anfonwch eich ffurflen gais drwy e-bost at hello@wemadethis.org.uk. Byddwn yn ceisio cysylltu â’r holl ymgeiswyr i ddweud wrthynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ond sylwer efallai na fydd yn bosib rhoi adborth manwl.

Casting Breakdown

We Made This are seeking three performers to work on the tour of Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir / The Girl with Incredibly Long Hair, an ambitious immersive work for young audiences that takes the story of Rapunzel and reimagines it for our times. This project was inspired by our experiences of telling stories to our own children and wanting them to experience high quality theatre, which doesn’t perpetuate sexist stereotypes.

Originally produced in 2018, the show sold out at Blackwood Miners Institute and Wales Millenium Centre, and is being re-created to tour, and will be produced in both English and Welsh.

We Made This is a company whose name makes explicit the collaborative nature of our process. We don’t subscribe to a style or methodology other than the form is dictated by the idea. Founded by Matt Ball and Jacqui George in 2014, we’re based in South Wales, and for each project we work with a collection of artists & makers based on the needs of the project.

Breakdown

Rapunzel (Female)

Feisty, intelligent and determined. Rapunzel loves reading, setting records and going on adventures; and has incredibly long hair.

Daf (Male)

A big scaredy cat. He loves baking and wants to go on adventures but wouldn’t dare if it weren’t for Rapunzel.

This performer will also play the role of the Bank Man, who is officious and does everything by the book.

Mam (Female)

Rapunzel’s mother, a gardener & astronomer. Intelligent and forgetful, she keeps Rapunzel in check but has forgotten to pay her bills.

This performer will also play the role of the World Records Adjudicator – a Feisty, bitter woman who lives in the heart of the Deep Dark Wood.

All performers must be able to perform fluently in both English and Welsh, be able to hold a tune, have movement skills and be interested in making work for young audiences.

We’re not giving the physical description (race, height, hair colour) of the characters – that will come from the performers, but the two performers who play young characters will need a childlike enthusiasm / energy, and the performer playing Mam needs play older than her daughter.

Dates & Salary

Engagement is from 11th March – 26th May (11 weeks Full Time)

£500 per week, PD’s when on tour and accommodation provided.

How to Apply

To apply for the post please send in a headshot, Spotlight Link/ CV and brief cover email detailing your key relevant experience and why you’d like to work with us by Friday 14th December 2018.

Auditions will be held in Cardiff on 8th January 2019.

Please send your application by email to hello@wemadethis.org.uk. We will endeavour to contact all applications to inform them whether they are successful or not but please note it won’t be possible to give detailed feedback.

galwad am gyfarwyddwr cynorthwyol assistant director call out

Cyfarwyddwr Cynorthwyol – DISGRIFIAD O’R SWYDD
Yn atebol i’r Cyfarwyddwr a’r Cynhyrchydd, mae We Made This yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol i weithio ar sioe deithiol Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir/ The Girl with Incredibly Long Hair, sef drama uchelgeisiol ac ysgogol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc sy’n defnyddio stori Rapunzel a’i hail-greu ar gyfer ein hoes ni. Cafodd y prosiect hwn ei ysbrydoli gan ein profiadau ni o adrodd straeon i’n plant ein hunain a’n dyhead iddynt brofi theatr o safon, nad yw’n cynnal stereoteipiau rhywiaethol.

Wedi’i chynhyrchu’n wreiddiol yn 2018, gwerthwyd tocynnau’r sioe i gyd yn Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon a Chanolfan Mileniwm Cymru, ac mae’n cael ei hail-greu fel sioe deithiol, wedi’i chynhyrchu’n Gymraeg a Saesneg.

Dyma rôl allweddol yn y tîm cynhyrchu ar gyfer Cyfarwyddwr Cynorthwyol profiadol â diddordeb mewn gwaith dyfais a, neu waith ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.

Cwmni yw We Made This y mae ei enw’n esbonio natur gydweithredol ein proses. Nid ydym yn defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig ar wahân i’r ffaith bod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, rydym wedi’n lleoli yn ne Cymru, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
• Mynychu a chyfrannu at glyweliadau
• Mynychu a chyfrannu at ymarferion.
• Arwain sesiynau paratoi
• Helpu’r Cyfarwyddwr i greu fersiynau Cymraeg a Saesneg
• Sicrhau cysondeb rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r ddrama
• Dirprwyo ar gyfer y cyfarwyddwr yn ôl y gofyn
• Gwylio a chofnodi perfformiadau penodol yn ystod y daith (fel y cytunwyd gyda’r cynhyrchydd/cyfarwyddwr)
• Tasgau perthnasol eraill fel y gofynnir amdanynt gan y Cyfarwyddwr a’r cwmni.
Manyleb y Person
Hanfodol
• Siaradwr Cymraeg rhugl
• Profiad o’r broses ddyfeisio.
• Wedi bod yn gyfarwyddwr cynorthwyol ar o leiaf un cynhyrchiad (cynyrchiadau llawn, nid darlleniadau wedi eu hymarfer) NEU wedi cyfarwyddo o leiaf un cynhyrchiad proffesiynol
• Yn meddu ar y gallu i fod yn gefnogol a sensitif yn yr ystafell ymarfer
• Deallusrwydd brwd a dull gweithredu trylwyr o ran dramäwriaeth
• Yn hyderus yn ei allu i gyfarwyddo yn Gymraeg a Saesneg
• Ymagwedd hunangynhaliol at waith.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
• Agwedd gadarnhaol.
• Ymagwedd hyblyg a pharodrwydd i addasu i amgylchiadau sy’n newid.

Dymunol
• Sgiliau symud
• Profiad o theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc

Dyddiadau a Chyflog
Bydd ymgysylltu o 11 Mawrth – 14 Ebrill, pum wythnos yn llawn amser.
Dyddiadau ymarferion: 11 Mawrth 2019 – 6 Ebrill, Caerdydd
Ymarferion technegol: 8 Ebrill 2019 Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon
Perfformiad cyntaf: 10 Ebrill 2019, Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon
Lleoliadau’r Perfformiadau Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon, Chapter, Theatr Brycheiniog, Neuadd Goffa’r Barri, Canolfan Celfyddydau Pontardawe, Glan-yr-Afon Casnewydd, Theatr Clwyd. Yn gorffen 26 Mai 2019.

£500 yr wythnos (contract pum wythnos llawn amser)

Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd, anfonwch eich CV (heb fod yn fwy na dwy dudalen) a llythyr eglurhaol yn nodi eich profiad perthnasol allweddol a beth fyddech yn ei ychwanegu at y rôl, erbyn dydd Gwener 14 Rhagfyr 2018.

Cynhelir cyfweliadau yng Nghaerdydd ar 21 Rhagfyr.

Anfonwch eich ffurflen gais drwy e-bost i hello@wemadethis.org.uk. Byddwn yn ceisio cysylltu â’r holl ymgeiswyr i ddweud wrthynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ond sylwer efallai na fydd yn bosib rhoi adborth manwl.

Assistant Director – JOB DESCRIPTION

Reporting to the Director and Producer We Made This is seeking an Assistant Director to work on the tour of Y Ferch gyda’r Gwallt Hynod Hir/ The Girl with Incredibly Long Hair, an ambitious immersive work for young audiences that takes the story of Rapunzel and reimagines it for our times. This project was inspired by our experiences of telling stories to our own children and wanting them to experience high quality theatre, which doesn’t perpetuate sexist stereotypes.

Originally produced in 2018, the show sold out at Blackwood Miners Institute and Wales Millenium Centre, and is being re-created to tour, and will be produced in both English and Welsh.

This is a key role in the production team for an experienced Assistant Director with an interest in devised work and or work for Young Audiences.

We Made This is a company whose name makes explicit the collaborative nature of our process. We don’t subscribe to a style or methodology other than the form is dictated by the idea. Founded by Matt Ball and Jacqui George in 2014, we’re based in South Wales, and for each project we work with a collection of artists & makers based on the needs of the project.

Main Duties and Responsibilities
• Attending and contributing to auditions
• Attending and contributing to rehearsals.
• Leading Warm-ups
• Assisting the Director in the creation of Welsh & English versions
• Ensuring consistency between Welsh & English versions of the play
• Deputising for the director as required
• Noteing specific performances during run (as agreed with producer/ director)
• Other relevant tasks as requested by the Director and the company.

Person Specification
Essential
• Fluent Welsh Speaker
• Experience of the devising process.
• Has assistant directed on at least one production (full productions not rehearsed readings) OR Has directed at least one professional production
• Has the ability to be supportive and sensitive in the rehearsal room
• Keen intelligence and rigorous approach to dramaturgy
• Confident in their ability to direct in both English and Welsh
• A self-sufficient approach to work.
• Excellent communication skills.
• A positive attitude.
• A flexible approach and willingness to adapt to changing circumstances.

Desirable
• Movement skills
• Experience of theatre for Young Audiences

Dates & Salary

Engagement is from 11th March – 14th April, five weeks full time.

Rehearsals dates: 11th March 2019 – 6th April, Cardiff

Technical rehearsals: 8th April 2019 Blackwood Miners’ Institute

1st Performance: 10th April 2019, Blackwood Miners’ Institute

Performance Venues: Blackwood Miners’ Institute, Chapter, Theatr Brycheiniog, Barry Memo, Pontardawe Arts Centre, Riverfront Newport, Theatr Clwyd. Finishing 26th May 2019.

£500 per week (5 week contract full time)

How to Apply
To apply for the post please send in a CV (no more than two pages) and cover letter detailing your key relevant experience and what you would bring to the role by Friday 14th December 2018.

Interviews will take place in Cardiff on 21st December.

Please send your application by email to hello@wemadethis.org.uk. We will endeavour to contact all applications to inform them whether they are successful or not but please note it may not be possible to give detailed feedback.

WMT Cyfarwyddwr Cynorthwyol : Assistant Director

ASSISTANT DIRECTOR CALL OUT/ GALWAD AM GYFARWYDDWR CYNORTHWYOL

ASSISTANT DIRECTOR CALL OUT

We are looking for an organized and passionate Assistant Director who has demonstrated a commitment to creating high quality theatre.

They will assist Matt Ball on We Made This’ forthcoming production of The Girl with Incredibly Long Hair, which is being produced in partnership with Wales Millennium Centre & Blackwood Miners Institute.

This role would be ideally suited to an emerging director looking to gain an insight into the process of making new work and build their own experience.

Experience/Skills:

Support the Director in the rehearsal and production process
Has some experience of rehearsal process
Has an interest in work for young audiences or experience of working with children

Contract Type: Freelance

The dates of engagement are:

5th March – 29th March – Rehearsals (Cardiff)

3rd April – 6th April – Technical rehearsals & performances (Blackwood Miners’ Institute)

9th -15th April Technical rehearsals and performances (WMC)

Hours: 3 days (24hrs) a week – to be negotiated between the successful candidate and the company.

The company will provide travel during the production week in Blackwood where required.

The fee is: £900 (for the duration of this Freelance contract)

Please apply with a copy of your CV and covering letter detailing your experience and interest in the project by midday on Friday, February 16th to Jenny.Sturt@wmc.org.uk

Interviews will be held on Monday, February 19th.

The production is supported by Arts Council of Wales, Blackwood Miners’ Institute, Creu Cymru and Wales Millennium Centre

GALWAD AM GYFARWYDDWR CYNORTHWYOL

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol trefnus a brwdfrydig sydd wedi dangos ymrwymiad i greu profiadau theatrig o’r radd flaenaf.

Bydd y person hwn yn helpu Matt Ball ar gynhyrchiad newydd We Made This, sef The Girl with Incredibly Long Hair, sy’n cael ei gynhyrchu mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a Sefydliad y Glowyr Coed Duon.

Byddai’r rôl hon yn ddelfrydol i gyfarwyddwr ar ei dwf sy’n awyddus i weld sut y mae gwaith newydd yn cael ei greu, ac i feithrin profiad.

Profiad/Sgiliau:

Helpu’r Cyfarwyddwr yn ystod yr ymarferiadau a’r broses gynhyrchu
Rhywfaint o brofiad o broses ymarferion
Diddordeb mewn gwaith i gynulleidfaoedd ifanc neu brofiad o weithio gyda phlant

Math o Gontract: Llawrydd

Dyma’r dyddiadau gweithio:

5 Mawrth – 29 Mawrth – Ymarferion (Caerdydd)

3 Ebrill – 6 Ebrill – Ymarferion technegol a pherfformiadau (Sefydliad y Glowyr Coed Duon)

9 -15 Ebrill – Ymarferion technegol a pherfformiadau (Canolfan Mileniwm Cymru)

Oriau: 3 niwrnod (24 awr) yr wythnos – hyn i’w drafod rhwng yr ymgeisydd llwyddiannus a’r cwmni.

Bydd y cwmni’n gofalu am y trefniadau teithio yn ystod wythnos y cynhyrchiad yn y Coed Duon pan fydd galw.

Y ffi yw: £900 (dros gyfnod y contract Llawrydd)

I wneud cais, anfonwch gopi o’ch CV ynghyd â llythyr eglurhaol, gan sôn am eich profiad a’ch diddordeb yn y prosiect, erbyn hanner dydd, ddydd gwener 16 Chwefror at Jenny.Sturt@wmc.org.uk

Cynhelir cyfweliadau ddydd Llun, 19 Chwefror.

Mae’r cynhyrchiad wedi’i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Creu Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru

The Girl with Incredibly Long Hair – Y Pasg hwn / This Easter

We’re delighted to announce that we have received funding from Arts Council of Wales to produce The Girl with incredibly long hair, an ambitious immersive work for young audiences.

This Easter join Rapunzel, her Mam, and her new friend Daf in the forest as they set off on an adventure, for which they’ll need your help.  The Girl with Incredibly Long Hair is a new family show from We Made This which reimagines the story of Rapunzel for our times.                 

Supported by Arts Council of Wales, Blackwood Miners’ Institute, Creu Cymru and Wales Millennium Centre.

———–

Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi ein bod wedi derbyn arian gan y Cyngor Celfyddydau Cymru prosiect nesa’, The Girl With Incredibly Long Hair

Y Pasg hwn, ymunwch â Rapunzel, ei mam, a’i chyfaill newydd, Daf, yn y goedwig wrth iddynt ddechrau ar antur y bydd angen eich help chi ar ei chyfer.  Sioe newydd i’r teulu yw The Girl with Incredibly Long Hair gan We Made This sy’n ailddychmygu stori Rapunzel ar gyfer ein hoes ni.          

Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad y Coed Duon, Creu Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.   

TECHNICAL ASM – JOB DESCRIPTION / RHEOLWR LLWYFAN CYNORTHWYOL TECHNEGOL – DISGRIFIAD SWYDD

TECHNICAL ASM – JOB DESCRIPTION

Reporting to the Production Manager and Stage Manager We Made This is seeking a Tech ASM to work The Girl with Incredibly Long Hair, which is an ambitious immersive work for young audiences. It takes the story of Rapunzel and reimagines it for our times, where we don’t expect the girl to need saving by the boy, and in which female characters can shape their own destiny. This project is inspired by our experiences of telling stories to our own children and wanting them to experience high quality theatre, which doesn’t perpetuate sexist stereotypes.

This is a key role in the production team for a Tech ASM with some experience and interest of devising new work.

We Made This is a new company whose name makes explicit the collaborative nature of our process. We don’t subscribe to a style or methodology other than the form is dictated by the idea. Founded by Matt Ball and Jacqui George in 2014, we’re based in South Wales, and for each project we work with a collection of artists & makers based on the needs of the project.

Main Duties and Responsibilities

  • Attending rehearsals.
  • Assisting with prop setting and maintenance.
  • To assist with rigging and set fit up.
  • Attending and assisting on the get-in at both venues.
  • To run the floor during the show and execute cues as required.
  • To carry out wardrobe laundry and maintenance during performance weeks.
  • To work alongside the Stage Manager from the get n period.
  • Other relevant tasks as requested by the Director and the company.

Person Specification

  • Experience of the devising process.
  • Experience of rigging.
  • Full clean driving licence.
  • A self-sufficient approach to work.
  • Excellent communication skills.
  • A positive attitude.
  • A flexible approach and willingness to adapt to changing circumstances.

Dates & Salary

Rehearsals dates: (Cardiff) 28th & 29th March 2018

Technical rehearsals: 3rd April 2018 Blackwood Miner’s Institute, 8th April 2018

Weston Studio, WMC

Performance Dates: 4th – 6th April 2018 Blackwood Miner’s Institute, 9th – 13th April

2018 Weston Studio WMC

£480 per week (2.5 week contract)

How to Apply

To apply for the post please send in a CV (no more than two pages) and cover letter detailing your key relevant experience and how you meet the person specification by Friday 12th January 2018.

Please send your application for the attention of Jacqui George by email to hello@wemadethis.org.uk. We will endeavour to contact all applications to inform them whether they are successful or not but please note it may not be possible to give detailed feedback.

RHEOLWR LLWYFAN CYNORTHWYOL TECHNEGOL – DISGRIFIAD SWYDD

Yn atebol i’r Rheolwr Cynhyrchu a’r Rheolwr Llwyfan, mae We Made This yn chwilio am Reolwr Llwyfan Cynorthwyol Technegol i weithio ar y cynhyrchiad The Girl with Incredibly Long Hair, sy’n ddrama uchelgeisiol ymdrochol i gynulleidfaoedd ifanc. Mae’n defnyddio stori Rapunzel ac yn ei hailddychmygu ar gyfer ein hoes, lle nad ydym yn disgwyl bod angen i’r bachgen achub y ferch, a lle mae’r cymeriadau benywaidd yn gallu llunio’u tynged eu hunain. Mae’r prosiect hwn wedi’i ysbrydoli gan ein profiadau o adrodd straeon i’n plant ein hunain a bod am iddynt brofi theatr o safon, nad yw’n bytholi ystrydebau rhywiaethol.

Dyma rôl allweddol yn y tîm cynhyrchu ar gyfer Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol Technegol â rhywfaint o brofiad a diddordeb mewn dyfeisio gwaith newydd.

Cwmni newydd yw We Made This y mae ei enw’n egluro natur gydweithiol ein proses. Nid ydym yn defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig oni bai bod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, rydym wedi’n lleoli yn ne Cymru, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Mynychu ymarferion.
  • Cynorthwyo wrth osod a chynnal a chadw propiau.
  • Cynorthwyo gyda gosod y llofftydd taclu a’r set.
  • Mynychu a chynorthwyo gyda symud y set yn y ddau leoliad.
  • Cynnal y llawr yn ystod y sioe a defnyddio ciwiau yn ôl y gofyn.
  • Golchi a chynnal a chadw’r gwisgoedd yn ystod wythnosau’r perfformiad.
  • Gweithio ochr yn ochr â’r Rheolwr Llwyfan ar gyfer cyfnod symud y set.
  • Tasgau perthnasol eraill fel y gofynnir amdanynt gan y cyfarwyddwr a’r cwmni.

Manyleb y Person

  • Profiad o’r broses ddyfeisio.
  • Profiad o lofftydd taclu.
  • Trwydded yrru car lawn lân.
  • Ymagwedd hunangynhaliol at waith.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Ymagwedd gadarnhaol.
  • Ymagwedd hyblyg a pharodrwydd i addasu i amgylchiadau sy’n newid.

Dyddiadau a Chyflog

Dyddiadau ymarferion: (Caerdydd) 28 a 29 Mawrth 2018

Ymarferion technegol: 3 Ebrill 2018: Sefydliad y Glowyr Coed Duon; 8 Ebrill 2018: Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru

Dyddiadau perfformiadau: 4 – 6 Ebrill 2018: Sefydliad y Glowyr Coed Duon; 9 – 13

Ebrill 2018: Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru

£480 yr wythnos (contract pythefnos a hanner)

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd, anfonwch CV (nid yn hwy na dwy dudalen) a llythyr eglurhaol yn nodi eich profiad allweddol perthnasol a sut rydych yn bodloni manyleb y person erbyn dydd Gwener 12 Ionawr 2018.

Anfonwch eich ffurflen gais at sylw Jacqui George drwy e-bost i hello@wemadethis.org.uk. Byddwn yn ceisio cysylltu â’r holl ymgeiswyr i ddweud wrthynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ond sylwer efallai na fydd yn bosib rhoi adborth manwl.

STAGE MANAGER ON THE BOOK – JOB DESCRIPTION / RHEOLWR LLWYFAN AR Y LLYFR – DISGRIFIAD SWYDD

STAGE MANAGER ON THE BOOK – JOB DESCRIPTION

Reporting to the Production Manager We Made This is seeking a Stage Manager on the Book to work The Girl with Incredibly Long Hair, which is an ambitious immersive work for young audiences. It takes the story of Rapunzel and reimagines it for our times, where we don’t expect the girl to need saving by the boy, and in which female characters can shape their own destiny. This project is inspired by our experiences of telling stories to our own children and wanting them to experience high quality theatre, which doesn’t perpetuate sexist stereotypes.

This is a key role in the production team for a Stage Manager with some experience and interest of devising new work.

We Made This is a new company whose name makes explicit the collaborative nature of our process. We don’t subscribe to a style or methodology other than the form is dictated by the idea. Founded by Matt Ball and Jacqui George in 2014, we’re based in South Wales, and for each project we work with a collection of artists & makers based on the needs of the project.

  • Main Duties and Responsibilities
  • Attending rehearsals.
  • Compiling rehearsal reports and rehearsal calls.
  • Creating and monitoring the rehearsal schedule.
  • Calling and operating sound for the show.
  • Maintaining the rehearsal room.
  • Assisting with propping
  • Pastoral welfare of the company.
  • Attending and assisting on the get-in at both venues.
  • To manage and work alongside the Technical ASM from the get n period.
  • Other relevant tasks as requested by the Director and the company.

Person Specification

  • Experience of creating a book from scratch.
  • Experience of the devising process.
  • Experience of cueing.
  • Experience of operating and problem solving QLab.
  • Full clean driving licence.
  • A self-sufficient approach to work.
  • Excellent communication skills.
  • Ability to relate to and communicate with a wide range of people, including artists.
  • A positive attitude.
  • A flexible approach and willingness to adapt to changing circumstances.

Dates & Salary

Rehearsals dates: (Cardiff) 5th – 29th March 2018

Technical rehearsals: 3rd April 2018 Blackwood Miner’s Institute, 8th April 2018 Weston Studio, WMC

Performance Dates: 4th – 6th April 2018 Blackwood Miner’s Institute, 9th – 13th April 2018 Weston Studio WMC £500 per week (6 week contract)

How to Apply

To apply for the post please send in a CV (no more than two pages) and cover letter detailing your key relevant experience and how you meet the person specification by Friday 12th January 2018.

Please send your application for the attention of Jacqui George by email to hello@wemadethis.org.uk. We will endeavour to contact all applications to inform them whether they are successful or not but please note it may not be possible to give detailed feedback.

RHEOLWR LLWYFAN AR Y LLYFR – DISGRIFIAD SWYDD

Yn atebol i’r Rheolwr Cynhyrchu, mae We Made This yn chwilio am Reolwr Llwyfan ar y Llyfr i weithio ar y cynhyrchiad The Girl with Incredibly Long Hair, sy’n ddrama uchelgeisiol ymdrochol i gynulleidfaoedd ifanc. Mae’n defnyddio stori Rapunzel ac yn ei hailddychmygu ar gyfer ein hoes, lle nad ydym yn disgwyl bod angen i’r bachgen achub y ferch, a lle mae’r cymeriadau benywaidd yn gallu llunio’u tynged eu hunain. Mae’r prosiect hwn wedi’i ysbrydoli gan ein profiadau o adrodd straeon i’n plant ein hunain a bod am iddynt brofi theatr o safon, nad yw’n bytholi ystrydebau rhywiaethol.

Dyma rôl allweddol yn y tîm cynhyrchu ar gyfer Rheolwr Llwyfan â rhywfaint o brofiad a diddordeb mewn dyfeisio gwaith newydd.

Cwmni newydd yw We Made This y mae ei enw’n esbonio natur gydweithiol ein proses. Nid ydym yn defnyddio arddull neu fethodoleg arbennig oni bai bod y ffurf yn cael ei harwain gan y syniad. Wedi’i sefydlu gan Matt Ball a Jacqui George yn 2014, rydym wedi’n lleoli yn ne Cymru, ac ar gyfer pob prosiect rydym yn gweithio gyda chasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr yn seiliedig ar anghenion y prosiect.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

  • Mynychu ymarferion.
  • Llunio adroddiadau ymarfer a galwadau am ymarferion.
  • Llunio a monitro’r amserlen ymarfer.
  • Galw a gweithredu’r sain ar gyfer y sioe.
  • Cynnal a chadw’r ystafell ymarfer.
  • Helpu gyda threfnu propiau.
  • Llesiant bugeiliol y cwmni.
  • Mynychu a chynorthwyo wrth symud y set yn y ddau leoliad.
  • Rheoli a gweithio gyda’r Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol technegol o’r cyfnod symud set.
  • Tasgau perthnasol eraill fel y gofynnir amdanynt gan y cyfarwyddwr a’r cwmni.

Manyleb Person

  • Profiad o lunio llyfr o’r newydd.
  • Profiad o’r broses ddyfeisio.
  • Profiad o greu ciwiau.
  • Profiad o weithredu a datrys problemau QLab.
  • Trwydded yrru car lawn lân.
  • Ymagwedd hunangynhaliol at waith.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Y gallu i gysylltu a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys artistiaid.
  • Ymagwedd gadarnhaol.
  • Ymagwedd hyblyg a pharodrwydd i addasu i amgylchiadau sy’n newid.

Dyddiadau a Chyflog

Dyddiadau ymarferion: (Caerdydd) 5 – 29 Mawrth 2018 Ymarferion technegol: 3 Ebrill 2018: Sefydliad y Glowyr Coed Duon; 8 Ebrill 2018: Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru Dyddiadau’r perfformiadau: 4 – 6 Ebrill 2018: Sefydliad y Glowyr Coed Duon; 9 – 13 Ebrill 2018: Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru £500 yr wythnos (contract chwe wythnos)

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd, anfonwch eich CV (heb fod yn hwy na dwy dudalen) a llythyr eglurhaol yn nodi eich profiad perthnasol allweddol a sut rydych yn bodloni manyleb y person erbyn dydd Gwener 12 Ionawr 2018.

Anfonwch eich ffurflen cais at sylw Jacqui George drwy e-bost i hello@wemadethis.org.uk. Byddwn yn ceisio cysylltu â’r holl ymgeiswyr i ddweud wrthynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio ond sylwer efallai na fydd yn bosib rhoi adborth manwl.